Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

SF 18

Ymateb gan:  Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst
Response from:
Chair of governors of  Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst.

 

 

Ymghynghoriad ar Gyllido Ysgolion.

Prin yw cyfeiriad at y cyfrifoldeb enfawr sydd ar lywodraethwyr ysgol sef lleygwyr i weithredu'r hyn a dderbynnir i lawr o’r Llywodraeth ac Awdurdod Lleol. O fy mhrofiad blynyddoedd fel cadeirydd llywodraethwyr ysgol uwchradd dymunaf nodi'r canlynol.

1.        Rydym dros y blynyddoedd wedi cadw o fewn rheolau arian wrth gefn ac oherwydd hynny yn ôl eich gwybodaeth yn wahanol i lawer o sefydliadau. Mae hyn oherwydd y wasgedd ariannol wedi amharu ar ein gallu i fod a threfn gyllido hyblyg yn ôl y galw.

2.      Rai blynyddoedd yn ôl roedd toriadau wedi peri i ni edrych ar gost effeithiolrwydd ac wedi peri i ni ganolbwyntio ar addysgu a dysgu yn fwy fwy. Bellach bu toriadau blynyddol y’n mynd i amharu ar ein gallu i weithredu polisïau ac ymateb i ddatblygiadau newydd fel y dymunwn.

·         Ni does arian i ni fel llywodraethwyr dargedu a staffio gwendidau o ran safonau  er enghraifft drwy ddarparu adnoddau, staffio a chymorth ychwanegol. Mae hyn yn peri rhwystredigaeth i ni fel llywodraethwyr. Mae hyn hefyd yn rhoi pwysau ar athrawon.

·         Oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd model cyllido yn ôl anghenion y cwricwlwm cynyddir niferoedd mewn dosbarth ac mae hyn yn mynd i effeithio ar safonau a’n gallu i roi cymorth i  ddisgyblion sydd eisiau gofal a sylw mwy dwys.

·         Nid yw cyllido ar niferoedd bob tro yn gweithio ar ben ei hun am fod angen staffio’r cwricwlwm. Mae angen ystyried modelau cyllidol gwahanol yn dibynnu ar ofynion ysgolion unigol yn arbennig lle mae grwpiau arholiad Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion dwyieithog gwledig fel un ni. Gall grwpiau pynciau unigol fod yn fychan ambell i flwyddyn ond nid yw ‘n dda i ni gyfyngu dewis disgyblion o ran cyfeiriadau gyrfaol. Er mwyn cyllido’r cwricwlwm newydd mae angen ystyried yn fuan gyllido sut i ddatblygu strwythur staffio gwahanol. Rydym o hyd yn gorfod ystyried addysgu trawsgwricwlaidd ond ar yr un pryd ddiogelu staff gydag arbenigedd pynciol.

·         Oherwydd amrywiaeth niferoedd disgyblion o flwyddyn i flwyddyn efallai ei bod yn bosibl torri un flwyddyn a thorri hefyd ar staff ond y flwyddyn wedyn angen staff apwyntio yn ychwanegol. Nid yw cyllido flwyddyn wrth flwyddyn yn effeithiol o ran hynny na chwaith o ran ein gallu fel llywodraethwyr i gynllunio yn y tymor canolig a hir. Byddai ystyriaeth sicrwydd dros dair blynedd er enghraifft yn gymorth. Mewn rhai blynyddoedd mae gwybodaeth gyllidol wedi bod mor hwyr fel yr ydym y gorfod gweithio gyda chyllideb drafft am rai misoedd.

·         Mae cynnydd sylweddol yn ddiweddar mewn disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a lles phwysau ar ysgol i gael mwy o gymorthyddion dosbarth. Nid yw’r drefn bresennol yn glir sut yr ariennir yn ol fformiwla ar gyfer yr agweddau yma a bydd angen ystyriaeth fanwl oherwydd newidiadau y Cod Ymarfer newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. Rydym yn ymwybodol o ofynion ychwanegol ar ysgolion oherwydd lleihau'r ganran o ddisgyblion a fyddai fel arall gyda sicrwydd cyllid drwy ddatganiad. Mae angen sylw i ariannu unedau mewn ysgolion ac yn arbennig i allu ysgolion ac awdurdodau lleol i gadw at gymharedd niferoedd disgyblion i staff. Mae angen dod yn ol hefyd at diwallu mwy o arian i weithio ar y cyd gydag ysgolion arbennig.

·         Rydym yn ymwybodol o lif arian i Awdurdodau Addysg a Chonsortiymau megis GWE. Nid oes gennym wybodaeth glir o sut y defnyddir yr arian yma ac a fydd gwario ar staff mewnol yn hytrach na chynnig cynllun ariannu sicr tuag at addysgu a dysgu.

·         Rydym ar hyn o bryd drwy ein rheolwraig fusnes yn gweithio o fewn project i helpu ysgolion cynradd gyda gwaith gweinyddol. Byddai ystyried gweithredu cyllidol mewn clwstwr neu ddalgylch fod o gymorth i gynllunio hyfforddiant, a threfnu adnoddau yn cynnwys cymorth i ddisgyblion gydag Anghenion Ychwanegol. Byddai hyn yn gymorth oherwydd newid argaeledd staff o fewn Awdurdod lleol.

Yn olaf tanlinellaf mai prin yw ‘r sylwedoliad mai  Llywodraethwyr fel gwirfodolwyr lleyg sydd yn gorfod penderfynu yn ol statud sut i weithredu polisiau o fewn ysgolion.